Y TRAETHODYDD. Y JERUSALEM DANDDAEAROL. Y MAE gan ddinas hedd ei hanesiaeth ddyddorol, yn ymestyn am o ddwy i dair mil o flynyddoedd, ac yn cynnwys ynddi bennodau meithion o gyfnewidiadau pwysig ac o drallodau blinion. O'r adeg y cawn hi yn ymddangos gyntaf ar lwyfan hanesiaeth, fel amddiffynfa gadarn ar ael y bryn; o'r adeg y cawn hanes yn Llyfr y Barnwyr i feibion Judah ymosod arni a'i hennill hi-yr hyn oedd oddeutu 1400 o flynyddoedd cyn Crist, a 700 o flynyddoedd cyn sylfaenu dinas Rhufain— hyd y flwyddyn 1244 o oedran y Gwaredwr, pan yr ymosodwyd arni ddiweddaf gan un o lwythau anwaraidd yr anialwch, fe ddywedir ei bod wedi cael gwarchae yn ei herbyn gan ei gelynion gymaint a saith ar hugain o weithiau. Dywedir fod y Jerusalem sydd yn awr, yr wythfed ddinas yn y gyfres gyfnewidiol. Yr oedd y gyntaf yn bod yn amser y Jebusiaid, yr hon a fu yn feddiant iddynt hyd amser Dafydd. Yr ail, yn amser Solomon, yr hon a fu yn aros am bedwar cant o flynyddoedd. Y drydedd oedd dinas Nehemiah, yr hon hefyd a fu yn aros am rai cannoedd o flynyddoedd. Wedi hyny dinas Herod, yr hon a ddinystriwyd gan Titus yn y flwyddyn 70 o.c. Wedi hyny cawn hi yn ddinas Rufeinig dan yr ymherawdwr Hadrian. Wedi hyny ceir hi yn ddinas Fahometanaidd dan Omar. Wedi hyny yn ddinas Gristionogol o dan Baldwin a Godfrey. Ac yn ddiweddaf oll, sef yr wythfed mewn nifer, ceir y ddinas sydd yn aros yn awr, yr hon bellach sydd wedi bod â'i gwddf o dan iau orthrymus Mahomed er ys chwe' chant o flynyddoedd. Felly yr ydym yn cael ymhlith ei llwch, ei sorod, a'i meini hi, nid olion a gweddillion o un ddinas yn unig, ond yn hytrach o ddinasoedd lawer, y rhai a " wnaed yn bentwr ac yn garnedd" gan ei gelynion am oesoedd lawer. Felly mae y defnyddiau a'r ysbwrial cymysgedig hwn, ar ba un y mae y ddinas bresennol wedi ei hadeiladu, yn waddodiadau trwchus, os nad yn haenau rheolaidd, ac yn cynnrychioli y gwahanol gyfnewidiadau a geir yn hanes y ddinas. Yn y dyfnder isaf, ac yn gorwedd wyneb yn wyneb â'r graig, ceir adfeilion o'r hen ddinas Jebusiaidd gyntaf; wedi hyny ceir adfeilion o ddinas Solomon; wedi 1878-1. hyny ceir llwch dinas Nehemiah; wedi hyny olion Rhufeinig; wedi hyny olion Herodaidd; wedi hyny olion Cristionogol; wedi hyny olion Saracenaidd; ac yn ddiweddaf oll, olion Mahometanaidd. Y mae daearegiaeth y llwch, y lludw, y pridd, a'r cèryg sydd yn cyfansoddi y gwaddod tanddaearol hwn, yn destun efrydiaeth ddyddorol, ac yn cynnrychioli cyfnodau blinion ac amrywiol yn hanesiaeth dinas Jerusalem. Pan yn cloddio am y graig er cael sylfaen safadwy i'r Eglwys Brotestanaidd sydd yn awr wedi ei hadeiladu ar Fynydd Sion, dywedir y bu raid gwneyd hyny trwy dori i lawr drwy ddeugain troedfedd o'r fath ddefnydd a nodwyd. Ac fe ddywedir ei fod i'w gael mewn rhai manau yn gymaint a chant a hanner o droedfeddi o drwch. Y mae Deon Stanley yn galw Palestina yn dir yr adfeilion, a Jerusalem yn arbenig yn ddinas yr adfeilion, yn city of ruins; ac yn dyweyd bod ei hanes fel y cyfryw yn cadarnhâu tystiolaeth yr Ysgrythyr yn y cyfeiriad hwn am dani, pan y dywedir, "Gosodasant Jerusalem yn garneddau;" "taflwyd cèryg y cysegr ymhen pob heol;" "ni adewir ynot faen ar faen a'r nis dattodir." Fe allai ei bod yn hysbys bellach i holl ddarllenwyr y TRAETHODYDD, fod cymdeithas wedi ei sefydlu yn Lloegr, er ys mwy na deng mlynedd bellach, yr hon a elwir yn "Gronfa Archwiliadol Palestina" (The Palestine Exploration Fund), amcan yr hon ydyw chwilio i mewn i henafiaethau y Tir Sanctaidd, cael allan ddull ac arferion y bobl, sefydlu lleoliad y dinasoedd a'r lleoedd cysegredig, cael gwybodaeth am ddaearegiaeth y wlad, ynghyd a'i llysieuaeth, ei milofyddiaeth, a'i hymddangosion nwyfreawl. Ac fe broffesir gwneyd hyn trwy gloddio i ddaear y Tir Sanctaidd, agor ei mynwes, er cael allan drysorau cuddiedig a gweddillion henafol; a hefyd trwy archwilio ei hwyneb hi, mewn mesur a phenderfynu safle pob mynydd a phant, cael allan enw pob lle a man, archwilio pob adfail, er tynu casgliadau oddiwrtho, a'r cwbl gyda'r amcan goruchel o egluro, esbonio, a chadarnhâu hanesiaeth a ffeithiau yr Ysgrythyr lân. Y mae gwaith y gymdeithas hon, fel y dywedir yn ei chylchlythyr hi, yn perthyn i bob oes, ac hefyd i'r holl fyd. Er fod y gymdeithas hon bellach yn y ddegfed flwyddyn o'i hoedran, ac wedi cyflawni gwaith pwysig, eto ychydig mewn cymhariaeth a wyddom ni y Cymry am ei gweithrediadau; ac nid oes hyd yn hyn ond ychydig iawn o bersonau yn Nghymru wedi cael y fraint o gyfranu tuag at ei chynnorthwyo. Fe allai y ceir mwy o oleuni ar ei gweithrediadau yn y dyfodol, ac y bydd mwy o zel Gymreig yn cael ei hamlygu o'i phlaid. Ei phrif noddydd hi ydyw ein grasusol Frenhines, ac y mae y cyfeisteddfod yn cael ei wneyd i fyny o wŷr mwyaf dylanwadol a chrefyddol ein teyrnas; ac y mae ei ffurfiad, ynghyd a'i gweithrediadau, yn gwbl rydd ac anenwadol. Y mae cymdeithas Americanaidd hefyd wedi ei ffurfio yn ddiweddar er archwilio y Tir Sanctaidd, ac y mae y ddwy, sef yr un Brydeinig a'r un Americanaidd, wedi rhanu y gwaith. Y mae y cwmni Prydeinig wedi dewis y tir y tu yma i'r Iorddonen, sef Palestina Briodol, yn faes eu hymchwiliadau; ac y mae y cwmni Americanaidd wedi croesi y tu hwnt i'r Iorddonen i dir Moab, ac wedi dewis etifeddiaeth Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasseh, yn faes i chwilio i mewn iddo; a diammeu y ceir canlyniadau bendithiol fel ffrwyth eu llafur. Y mae y ddwy gymdeithas, er yn gweithio ar bob tu i'r afon, eto yn un mewn cymhelliad ac amcan, ac yn cydweithio yn yr un ysbryd, gan gydymdrech o blaid ffydd yr efengyl. Ac y mae gweled y cwmnïau anrhydeddus hyn, wrth dirio i ddaear y Tir Sanctaidd, ac yn codi i fyny y meini maluriedig o'r pridd tew a'r clai tomlyd, ac o'i thyrau llwch hi yn dwyn allan drysorau newydd a hen, yn peri i ni gofio geiriau prophwydoliaethol y Salmydd, pan y dywed, "Ti a gyfodi ac a drugarhei wrth Sion; canys yr amser i drugarhâu wrthi, ïe yr amser nodedig a ddaeth. Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi." Yr un a osododd i lawr sail y gymdeithas hon ydyw Mr. George Grove, gŵr galluog a dysgedig, ac un o'r prif erthyglwyr i Smith's Bible Dictionary, Mae yn wir i ŵr o'r enw Seezen, ar ol bod yn ymweled â Palestina yn y flwyddyn 1807, deimlo yr angen am gymdeithas o'r fath, a bu ei ymdrech yn llwyddiannus i beri i ychydig Saeson ymffurfio yn "Gymdeithas Archwiliadol Palestina," ond ychydig amser a fu ei pharhâd. O herwydd sefyllfa gynhyrfus Ewrop ar y pryd hwnw, ac o ddiffyg cefnogaeth, buan y trodd yr anturiaeth allan yn fethiant. Ac ni bu ymgais at ail sefydlu cymdeithas o'r fath wedi hyny am dros hanner cant o flynyddoedd. Fe allai mai yr un a roddodd y cynhyrfiad mwyaf effeithiol er sefydlu y gymdeithas sydd yn awr mewn gwaith ydoedd y teithiwr Americanaidd enwog, Dr. Robinson, er mai Mr. Grove, fel y dywedwyd eisoes, ydoedd ei sylfaenydd. Cymerodd Dr. Robinson y Tir Sanctaidd yn destun efrydiaeth am bymtheng mlynedd o amser, a thalodd ymweliad ddwy waith â'r wlad, ac unwaith yn nghwmni un o'r enw Dr. Eli Smith, ysgolhaig Arabaidd o radd uchel; ac felly yr oedd yn meddu pob cymhwysder er gwneyd ymchwiliadau deallgar yn y Wlad Sanctaidd, ac er gallu ffurfio cyfundrefn o ddaearyddiaeth Fiblaidd sydd i fod yn safon yr oesau. oedd y teithiwr gwyddorol cyntaf i Palestina. Bu yno lawer teithiwr o'r blaen, a miloedd o bererinion yn ymweled â'i lleoedd cysegredig hi; ond ni fu y sylwedydd gwyddorol yno cyn hyn. Ystyrir ei lyfr yn waith safonol ar y Tir Sanctaidd hyd heddyw. Efe Ar y dydd cyntaf o Chwefror yn y flwyddyn 1867, mwy na deng mlynedd yn ol, cawn Cadben Warren a'i gwmni, yn cynnwys Sergeant Birtles, Corporals Phillips, Hancock, Turner, Mackenzie, Cock, Ellis, Hansom, a Duncan, yr hwn a fu farw wedi hyny yn Jerusalem,—un nos waith yn y Charing Cross Hotel, Llundain, cyn eu hymadawiad drannoeth i'r hynt archwiliadol i Palestina; ac ni a gawn fod Mr. George Grove, ar ran y Gymdeithas Archwiliadol, yn cyflwyno i Cadben Warren bwrs yn cynnwys y swm o dri chant o bunnau tuag at ei draul, ac hefyd yn cyflwyno iddo hefyd ei fendith, gan orchymyn iddo fyned a llwyddo. Myned ymaith a wnaeth Cadben Warren a'i gwmni; ond ychydig a wyddent ar y pryd mai dyna oedd holl nerth y gronfa, ac nad oedd yn ei holl drysorau yr un ffyrling yn ngweddill. Ond buan y daethant i wybod hyny, oblegid darfyddodd y bagshish, ac er gwneyd apeliadau taerion am ychwaneg, nid oedd dim yn dyfod. Ac yn y sefyllfa hon y bu Cadben Warren am rai misoedd, yn gweithio drwy ffydd, ac yn talu yr holl gostau o'i adnoddau ei hun, mewn ymddiried o'u cael yn ol oddiwrth y gymdeithas. Ofer ydoedd ysgrifenu i Loegr am gymhorth, oblegid oddiyno nid oedd llais na llef yn ateb. Ac yn y sefyllfa ddysgwylgar ond siomedig hon y bu am ddeng mis, ond eto yn parhâu i weithio yn egnïol. Yn y cyfwng hwn ymwelwyd âg ef gan amryw deithwyr dylanwadol, pa rai fuont gysur a chynnorthwy iddo yn ei adfyd. Ymwelwyd âg ef gan yr hynod a'r enwog Rob Roy, a bu i lawr gydag ef yn y siafft fawr yn nghynteddau y deml, yr hon oedd yn chwech ugain troedfedd o ddyfnder, a chymaint oedd y perygl yn y gwaelod, fel na oddefid i neb ddyweyd yr un gair, rhag y buasai swn y llais yn peri i'r rwbel roddi i ffordd, llanw y lle, a'u claddu oll yn fyw. Dywedir y bu cymdeithas lawen Rob Roy yn gysur cryf i Cadben Warren a'i gwmni, ac y bu ei ystumiau digrifol a chwareus yn destun chwerthiniad calonog i'r Arabiaid. Yn y cyfwng hwn hefyd ymwelwyd âg ef gan y Marquis of Bute, a Monsignor Capel. Teimlai y Marquis ddyddordeb mawr yn y gwaith, ymwelodd â'r holl gloddfeydd, a rhoddodd archeb am £250 at y gost, yr hyn oedd yn gymhorth cyfamserol, er nad oedd yn ddigon o lawer i gyfarfod â'r gofynion. Hefyd bu ymweliad Lord Clarence Paget, Commander in Chief y llynges yn Môr y Canoldir ar y pryd, o ddirfawr les, gan iddo, wedi gweled â'i lygaid yr hyn a wnaed, gyfryngu gyda'r Pasha, a chael rhyddid i Cadben Warren i fyned ymlaen yn ddirwystr. A dywedir y bu presennoldeb y llynges ar hyd y glànau, dyfodiad lliaws o'r morwyr i Jerusalem, ynghyda barn a chynghor yr Admiral Prydeinig, gael effaith dda ar y bobl, a hyd yn nod ar lywodraethwr y ddinas ei hun. Byth wedi hyny cafwyd mwy o ryddid, a llai o wrthwynebiadau i fyned ymlaen gyda'r gwaith. Ymwelodd llïaws o deithwyr Prydeinig â Jerusalem yn y misoedd adfydus hyn ar yr Explorers, a chafodd y Cadben fantais i ddangos iddynt y gwaith mawr a phwysig oedd wedi cael ei gyflawni, a gosod o'u blaen ei amgylchiadau cyfyng ei hun, gan ddymuno am eu cydymdeimlad a'u cymhorth wedi iddynt ddychwelyd adref. Y canlyniad fu, wedi iddynt ddychwelyd i'w gwlad, iddynt ddwyn tystiolaeth uchel i lafur Cadben Warren a'i gwmni, a gallu cynnyrchu brwdfrydedd mawr o blaid y symudiad; a'r diwedd fu i Mr. George Grove wneyd apeliad at y cyhoedd o blaid yr achos, yr hyn fu yn effeithiol i ddwyn y Gronfa allan o gyfyngder, ac i'w gosod byth wedi hyny ar dir mwy diogel ac anrhydeddus. Yn y cyfwng hwn fe adffurfiwyd y Gronfa, gan ddewis iddi gyfeisteddfod gweithiol, trysorydd, ac ysgrifenydd rheolaidd. Yr ysgrifenydd ydyw Mr. Walter Besant, i'r hwn y mae llawer o'r clod yn ddyledus am y wedd anrhydeddus a gobeithiol a geir yn bresennol arni. Ac ar ol i Cadben Warren a'i gwmni fod yn llafurus yn y Tir Sanctaidd gyda graddau helaeth o lwyddiant, am dair blynedd, fe ddychwelodd i Loegr yn nghanol croesawiad a llongyfarchiadau llu mawr o edmygwyr a chyfeillion. Yna fe aeth yr ail gwmni allan dan lywyddiaeth Cadben Stuart, R.E., ac wedi hyny dan lywyddiaeth Lieutenant Conder, R.E., ac hefyd y diweddar Mr. Tyrwhit Drake. Fe gafodd y Gronfa ddyrnod drom a phrofedigaeth lem yn marwolaeth Mr. Drake, yr hwn oedd gristion trwyadl, a gweithiwr difefl. Wedi hyny. fe gymerwyd lle Mr. Drake gan Lieutenant Kitchener. Yn y flwyddyn 1875 gwnaeth brodorion Saffed ymosodiad marwol ar y cwmni, yr hyn a'u gorfododd i ddychwel |