صور الصفحة
PDF
النشر الإلكتروني

PAHAM MAE Y LLUAWS YN DLAWD?

Rydym yn byw mewn cymdeithas sydd yn llawn

cystadleuaeth, a'r Cyfalaf yn nwylaw ychydig bersonau. Beth yw y canlyniadau ? Fod ychydig yn gyfoethog iawn, rhai mewn amgylchiadau cysurus, y MWYAFRIF MEWN TLODI, a llu mawr mewn trueni.

A yw hyn yn drefn gyfiawn a doeth, deilwng o ddyn. oliaeth P A yw yn ein gallu ni i wella y drefn hon ai nid yw ?

Mae y drefn hon hyd yma wedi ei gadael heb ei chondemnio yn unig am ein bod ni mor barod i dderbyn unrhyw drefn ddigwyddo fod yn sefydledig, ac oblegid yr anwybodaeth sydd yn ffynu yn gystal am y drygau a achosir yn anocheladwy gan ein hanrhefn yn ngwahanol gylchoedd llafur, ac am ein gallu ni i'w cadw draw.

Nid yw y drefn gystadleuol, yr hon sydd yn gosod y naill i gydymgais a'r llall, ac yn galluogi yr ychydig i gymeryd meddiant o'r cyfoeth sydd yn perthyn i gymdeithas yn gyffredinol, ond dyfais sydd yn cadw i fynu lawer o ddrygau yr oesoedd penrydd wedi ychwanegu atynt bla o ystrywiau masnachol mor isel a dirmygus fel nad oes genym iaith ddigon cref i'w condemnio.

Beth ellir ddyweud yn ffafr cyfundrefn sydd yn cynyrchu y coegyn segur ac yn gadael iddo fyw heb wneud un ergyd o waith buddiol, y gweithiwr sydd fel caeth-was yn llafurio am yr hyn nad yw ond gwawd ar fywyd dynol, y tlawd truenus a'r troseddwr sydd yn erbyn pawb, ie, o blaid cyfundrefn sydd yn cadw i fynu frwydr driphlyg o anonestrwydd yn barhaus rhwng y cynyrchydd, y masnachydd a'r hwn sydd yn defnyddio y cynyrch.

Beth yw Cyfalaf ?

Cyfalaf yw cyfanswm y cyfryngau sydd genym i gynyrchu, a'r manteision a ddeilliant o'r gwaith a wnaed yr amser a aeth heibio. Mae yn cael ei iawnddefnyddio pan yn cael ei roddi i lesoli pawb, yn cael ei gamddef

yddio pan adewir ef yn nwylaw yr ychydig i wastraflu ei gynyrch ar eu pleserau personol eu hunain. Mae y drefn bresonol yn galluogi yr ychydig i gymeryd oddiar y gweithwyr ran fawr o gynyrch eu llafur, -y llafur hwnw, yr hwn yn unig a wna i'r cyfalaf a adawyd gan genhedlaethau o ddiwydrwydd cymdeithasol, ddwyn frwyth.

Beth mae y lluaws yn gael oddiwrtho ?

Tlodi yw eu rhan hwy. Dyma ganlyniad anocheladwy eu cydymgais am gyflogau, ac nid oes neb yn gwybod gystal a'r gweithwyr eu hunain beth yw pwysau y llygredigaeth ofnadwy a hirbarhaol a achosir, nid

yn unig gan dlodi un genhedlaeth, eithr gan genhedlaethau o dlodi. Disgwylir i'r tlodion gyda'r cyfleusderau lleiaf ddangos y rhinweddau mwyaf. Rhaid iddynt ar gyflog. au bychain ac ansicr, fel meibion a merched, ymdrechu dal i fynu eu hanibyniaeth, eu hunanbarch a'u henw da, a gosod ychydig o'r neilldu ar gyfer diwrnod gwlawog, yr hwn sydd yn sicr o'u dal,

Cymered y dyryswch lleiaf le yn marchnad llafur a eheir gweled y naill weithiwr yn gweithio dan y llall. Gweithia y dyn tlawd am gyflog bychan ond gweithia un tlotach am gyflog o lai, a thyn y cydymgais hwn am waith y cyflogau uchaf mewn rhai galwedigaethau a'r cyflogau isaf yn mhob galwedigaeth, i lawr mor isel na fyddont ond prin ddigon i gadw dyn rhag newyn, a phe cymerai y dyryswch lleiaf le ar eu gwaith neu eu hiechyd nid oes ond y plwyf yn eu haros.

Dyna dynged pob gweithiwr bron, tra y bydd gwr y cyfalaf yn ymneillduo gyda chynysgaeth ar yr hyn y bydd efe, ei blant a'i wyrion, yn gallu byw heb wneud dim. Wele un engraifft o lawer. Mae mab i berchenog gwaith haiarn heddyw yn eistedd yn Nhy yr Arglwyddi mae ganddo dy ardderchog yn y dref a dau neu dri phalas yn y wlad ; dygir ei blant i fynu mewn mwyniant à moethau, ond pa le y mae plant y bubl fu yn gwneud ei gyfoeth ? Maent hwy yn gweithio o fore hyd hwyr am ddim ond prin ddigon i'w cynal fel yr oedd eu tadau o'u blaen.

Mae llafur dibaid y gweithwyr yn gwneud y rhai sydd

eisoes yn gyfrethog yn gyfoethocach, hyd nes y galluoga cyfoech mawr y nifer fechan uchelfreiniog i fyw mewn moethau diofal, heb wybod dim am yr ymdrechfa am fy violaeth sydd yn myned yn mlaen yn mhlith y bobl islaw iddynt.

Ai nid oes hawl gan weithwyr i ddim ar y ddaear ond gweithio pryd a lle y gwelo gwr y cyfalaf yn dda, ac ar y telerau a benderfynir gan gydymgais ? Os mai cydymgais yw safon briodol cyflog pabam na chymerid ef yn safon yn mhob achos ? Yn ol y safon hon, beth er engraifft, fyddai cyflog Duc, Esgob, neu un o weision Llys y Frenhines.

A yw trefnidwyr, gwleidyddwyr, a chymdeithaswyr yn sefyll yn anobeithiol uwchben anhawsderau Tlodi ? A raid i'r gweithwyr aros mewn tlodi tra fyddo'r Senedd. wyr a'r doethion yn hollti blew ac yn hidlo gwybed ?

Na, nid felly! rhaid i'r gweithwyr roddi i fynu ymddiried yn ddall mewn Cydymgais yr hwn yw duw Masnach, a hyny hefyd a wnant, a dyfod i deimlo eu cyfrifoldeb am y galluoedd sydd ganddynt, ond eto heb wneud defnydd ohonynt.

Pe defnyddid Cyfalaf at wasanaeth Cymdeithas derbyniai Llafur gyflawn fudd oddiwrtho, ond tra y gadewir Cyfalaf yn nwylaw yr ychydig, Tlodi o angenrheidrwydd fydd rhan y lluaws.

Gellwch chwi addysgu, pregethu a gweddio yn eich ysgolion a'ch addoldai hyd ddiwedd amser, ond ni ateba un dyben hyd nes yr ysgubir ymaith yr eilun dall Cydymgais, y camddefnydd hwn à wneir o Gyfalaf yn nwylaw personau unigol.

Chwi y rhai ydych yn byw yn ddedwydd a moethus, cofiwch fod eich mwydiant a'ch moethau wedi eu pwrcasu gan angen a thrueni eraill. Eich gormodedd chwi achosodd eu tlodi hwy. Gobeithio na ddifodwyd eich dynoliaeth gan y cyfoeth a adawodd eich tadau i chwi.

Deuwch allan o'ch gormodedd a'ch esmwythdra a chynorthwywch ni!

Chwithau hefyd y rhai ydych yn dyoddef, meddyliwch am hyn, a chynorthwywch ni i hyrwyddo yr unig feddyginiaeth rhag y drygau hyn. Mae'r amser yn agoshau pan ellir gwneud Cyfalaf yn eiddo cymdeithas, nid i fod mwyacho dan reolaeth yr ychydig, eithr yn feddiant cyhoeddus er budd pob dyn. Mae yn eich gallu i gynorthwyo i wneud hyn, heboch chwi nis gellir ei wneud. Mae y gallu yn eich dwylaw a chyfleusderau i ddefnyddio y gallu hwnw yn barhaus o fewn eich cyrhaedd, os esgeuluswch y cyfleustra, bydd raid i chwi a'ch plant aros yn ebyrth i Gydymgais a Chyfalaf—Ymdrechu byth--Tlodion byth.

шошго в киев да ве опода риодорошо оошоо Seoretary, at the Fabian Office, 3 Clement's Inn, London, PABIANISM AND THE EMPIRE: A Manifesto. post free. FABIAN ESSAYS IN SOCIALISM. (35th Thousand.) Paper cover, 1l- ; plain cloth, 2-, post tree from the Secretary.

FABIAN TRACTS and LEAFLETS. Tracts, each 16 to 52 pp., price ld., or 9d. per dos., unless otherwise stated.

Leaflets, 4 pp. each, price ld. for six copres, 1s. per 100, or 8/6 per 1000. The Set of 88, 38.; post free 3/5. Bound in Buckram, 4/6; post free for 55 1.-General Socialism in its various aspects.

TRACTS.-121. Public Service versus Private Expenditure. By Sir OLIVER LODGE. 113. Communism. By Wm. MORRIS. 107. Socialism for Millionaires. By BERNARD SHAW. 79. A Word of Remembrance and Caution to the Rich. By John WOOLMAN. 78. Socialism and the Teaching of Christ. By Dr. JOHN CLIFFORD. 87. The same in Welsh. 42. Christian Socialism. By Rev. 8. D. HEADLAM. 75. Labor in the Longest Reign. By SIDNEY WEBB. 72. The Moral Aspects of Socialism. By SIDNEY BALL. 69. Difficulties of Individualism. By SIDNEY WEBB. 51. Socialism: True and False. By S. WEBB. 45. The Impossibilities of Anarchism. By BERNARD SHAW (price 2d.). 15. English Progress towards Social Demo. cracy. By S. WEBB. 7. Capital and Land (6th edn.revised 1904). 5. Facts for Socialists (9th edn., revised 1904). LEAFLET8—13. What Socialism Is.

1. Why are the Many Poor? 38. The same in Welsh. II.-Applications of Socialism to Particular Problems.

TBACTS.-126. The Abolition of Poor Law Guardians. 122. Municipal Milk and Public Health. By Dr. F. LAWSON DODD. 120.“ After Bread, Education." 125. Municipalization by Provinces. 119. Public Control of Electrical Power and Transit. 123. The Revival of Agriculture. 118. The Secret of Rural Depopulation. 115. State Aid to Agriculture : an Example. 112. Life in the Laundry. 110. Problems of Indian Poverty. 98. State Railways for Ireland. 124. State Control of Trusts. 86. Municipal Drink Traffic. 85. Liquor Licensing at Home and Abroad. 84. Economics of Direct Employment. 83. State Arbitration and the Living Wage. 73. Case for State Pensions in Old Age. 67. Women and the Factory Acts. 50. Sweating: its Cause and Remedy. 48. Eight Hours by Law. 23. Case for an Eight Hours Bill. 47: The Unemployed. By JOHN BURNS, M.P. LEAFLETS.-89. Old Age Pensions at Work. 19. What

the Farm Laborer Wants. 104. How Trade Unions benefit Workmen. III.-Local Government Powers : How to use them.

TRACT8.-117. The London Education Act, 1903: how to make the best of it, 114. The Education Act, 1902. 111. Reform of Reformatories and Industrial Schools. By H. T. HOLMES. 109. Cottage Plans and Common Sense. By RAYMOND UNWIN. 103. Overcrowding in London and its Remedy. By W. C. STEADMAN, L.C.C. 101. The House Famine and How to Relieve it. 52 pp. 76. Houses for the People. 100. Metropolitan Borough Councils. 99. Local Government in Ireland. 82. Workmen's Compensation Act. 62. Parish and District Councils. 61. The London County Council. 54. The Humanizing of the Poor Law. By J. F. RAKESHOTT. LEAFLETS.-68. The Tenant's Sanitary Catechism. 71. Same for London. 63. Parish Council Cottages and how to get them. 58. Allotments and how to get them. FABIAN MUNICIPAL PROGRAM, FIRST SERIES (Nos. 32, 36, 37), Municipalization of the Gas Supply. The Scandal of London's Markets. А Labor Policy for Public Authorities. SECOND SERIES (Nos. 90 to 97). Municipalization of Milk Supply. Municipal Pawnshops. Municipal Slaughterhouses. Women as Councillors. Municipal Bakeries. Muni. cipal Hospitals. Municipal Fire Insurance. Municipal Steamboats.

Second Series in a red cover for 1d. (90. per doz.); separate leaflets, 1/- per 100. IV.-Books. 29. What to Read on social and economic subjects. 6d. net. V.-General Politics and Fabian Policy.

127. Socialism and Labor Policy. 116. Fabianism and the Fiscal Question: an alternative policy. 108. Twentieth Century Politics. By SIDNEY WEBB. 70. Report on Fabian Policy. 41. The Fabian Society:

its Early History. By BERNARD SHAW. VI.-Question Leaflets. Questions for Candidates : 20, Poor Law Guard

ians. 24, Parliament. 28, County Councils, Rural. 56, Parish Councils. 57,

Rural District Councils. 102, Metropolitan Borough Councils. Book Boxes lent to Societies, Clubs, Trade Unions, for 6s. a year, or 2/6 a quarter Printed by G. Standring, 7 Finsbury St., London, E.C., and published by the Fabian Society,

3 Clement's Inn, Strand, London w.C.

[graphic]
« السابقةمتابعة »