صور الصفحة
PDF
النشر الإلكتروني
[ocr errors]

7. Pa fodd y cysonwch Act. ix. 7, â xxii. 9, ac â xxvi. 14? Nodwch beth tebyg yn hanes ein Gwaredwr yn yr Efengyl yn

ol Ioan.

8. Pa sawl Ananias y sonir am danynt yn y Testament Newydd?

9. Dau enw yr Apostol, eu hystyron, a'r rheswm am eu cyfnewidiad?

10. I ba le yr aeth o Damascus, pa hyd yr arhosodd yno, a beth dybiech chwi ei fod yn wneyd yn y cyfamser?

11. Wedi dychwelyd i Damascus y mae yn myned i Jerusalem y tro cyntaf wedi ei argyhoeddiad. Paham ? Gan pwy y mae yn cael ei gyflwyno i'r apostolion? Gyda phwy y lletyai? A beth ei amcan ef ei hun wrth adrodd hanes yma?

yw

yr

12. Beth a gymerodd le o hyn hyd ei ordeiniad i'r gwaith cenadol yn Antioch?

13. Ei daith cenadol gyntaf.

14. Ei ail.

15. Ei drydedd.

16. Pa bryd y mae Luc yn cael son am dano gyntaf fel cydymaith i'r Arostol, a pha bryd y mae Timotheus?

17. Pwy yw y Silfanus y sonir am dano yn 1 Thes. i. 1 ? A nodwch amgylchiadau ysgrifeniad y llythyr hwnw.

18. Pa lythyrau a ysgrifenodd o Rufain?

19.

Beth a ddywed traddodiad am dano wedi yr amgylchiadau a goffeir yn niwedd llyfr yr Actau, a pha ran o'r Testament Newydd a dybir sydd yn cadarnhau hyny?

20. Pa amgylchiadau a goffeir gan Paul ei hun yn yr Epistolau fel dygwyddiadau pwysig yn hanes ei fywyd nad yw llyfr yr Actau yn son am danynt?

21. Rhoddwch amseriad yr amgylchiadau canlynol:-Ei droedigaeth, ei deithiau cenadol, a'i farwolaeth.

22. Nodwch ryw bethau yn ei hanes neu ei lythyrau sydd yn dangos y pethau canlynol:-Ei genedlgarwch, ei wroldeb, ei annibyniaeth, ei foneddigeiddrwydd, ei fedr i drin dynion, tynerwch dwfn ei deimladau, ac angerddoldeb ei zel dros achos yr Arglwydd Iesu.

MANION.

UCHDER celfyddyd ydyw cuddio celfyddyd.—O'r Lladin.

Gellwch ffaelu ymddangos yn dda i farn eraill yn eich ymddyddan ac yn eich ymddygiadau, o herwydd eich bod yn rhagori arnynt yn gystal ag am eich bod islaw iddynt.-Greville.

Nid oes y fath beth a bod yn hyawdl ar ran Atheistiaeth. Yn y gwagle hwnw, heb awyr o'i fewn, nis gall y meddwl wneuthur defnydd o'i adenydd- y prawf egluraf ei fod allan o'i elfen.-Hare. Prydferthwch heb rinwedd, blodeuyn heb arogl.-O'r Francaeg. Gwydrau ydyw llyfrau i ddarllen Natur.-Dryden.

Y mae mewn dynion ryw neillduolion ag sydd yn dadguddio yr hyn ydynt trwy y dyfeisiau mwyaf cywrain, a'r ymguddiadau mwyaf dirgel.-Bruyere.

Ennillir enw da yn fynych heb deilyngdod, a chollir ef heb haeddu hyny.-Shakspeare.

Y ffordd i ennill enw da ydyw, ymdrechu i fod yr hyn yr ydych yn dymuno ymddangos eich bod.-Socrates.

Y mae cymeriad dyn yn fynych fel ei gysgod, yr hwn sydd weithiau yn ei ganlyn, ac weithiau yn ei rag-flaenu, a'r hwn sydd weithiau yn hwy, ac weithiau yn llai nag ef ei hun.-O'r Ffrancaeg.

Y mae llawer yn cario eu cymeriad yn eu dwylaw; ac nid ychydig, dan eu traed.-Anon.

Y mae rhyw ddysgleirdeb o amgylch llwyddiant bydol ag sydd yn chwannog o daro llygaid dynion. Pan ganfyddom un yn codi i fyny yn y byd, yn llwyddiannus mewn masnach, yn llwyddianus yn ei anturiaethau; os bydd yn ddyn allan o'n llinell ni, ac heb ddyfod i gydymgais yn ein herbyn ni, fel ag i'n gwneuthur yn eiddigeddus o hono, yr ydym yn rhy chwannog i ffurfio barn uchel am ei deilyngdod. Yr ydym yn dueddol i ddywedyd ynom ein hunain, “Rhaid fod y dyn hwn yn un rhyfedd, fel ag i godi mor gyflym?" gan anghofio mai llwch, a gwellt, a phlu, pethau heb na phwys na gwerth ynddynt, sydd yn codi yn gyflymaf a hawddaf. Yn yr un modd, a llefaru yn gyffredinol, nid y dyn gwir fawr a da sydd yn codi i fyny gyflymaf i gyfoeth a sylw.Hare.

Tueddiad eithaf gwareiddiad ydyw at Farbariaeth.-Hare.

Yr ydym yn agos i fod yn effro pan fyddom yn breuddwydio ein bod yn breuddwydio.-Novalis.

Fel yr ydwyf yn cymeradwyo un ieuangc â rhywbeth o'r hen ddyn ynddo, felly nid ydwyf yn llai hoff o'r hen ddyn sydd â rhywbeth ynddo o'r ieuangc.-Cicero.

Nis gall dyn feddianu dim ag sydd yn well na gwraig dda, na dim ag sydd yn waeth nag un ddrwg.-Simonides.

yn

Os mynit foddio y merched, rhaid i ti ymdrechu eu gwneuthur foddhaol â hwy eu hunain.-Fuller.

:

Y mae deall y doeth fel gwydr y mae yn derbyn goleuni y nefoedd i mewn, ac ar ol hyny yn ei ad-lewyrchu allan.-Hare. Anaml y gwelais neb a adawai wirionedd mewn petheuach bychain y gallwn ymddiried ynddo am bethau o bwys.—Paley.

Ni ddaw yr hwn sydd yn wastad yn cyfieithu byth yn fardd; na hwn sydd yn wastad yn copïo yn arluniwr; felly yr hwn sydd yn wastad yn dibynu ar elusen eraill a fydd yn wastad yn dlawd.-Temple.

ATEBION I YMOFYNION.

Yr oedd mwy nag un Bozrah. 1. Yn Edom-dinas Jobab mab Zerah, un o frenhinoedd cyntaf y wlad hono. Hon ydyw yr un a grybwyllir gan Esaiah, Jeremiah, Micah. Crybwyl ir hi hefyd gan Eusebius yn ei Onomasticon. Gelwir hi ganddo ef yn Bosor. Ei henw presenol ydyw el Busaireh. Ymwelwyd â hi yn gyntaf mewn amseroedd diweddar gan Burckhardt. Darllenwch ei deithiau yn tu dal. 407, ac hefyd Robinson cyf. 2. 167. 2. Bozrah yn y gwastadedd ar y tu dwyreiniol i'r môr

marw.

Cywreingar. Y mae dysgedigion yn amrywio yn ddirfawr yn eu golygiadau ar ystyr y titl "Caniad y graddau," yr hwn a

ddodir mewn cysylltiad â Salm 120-134. Y golygiad mwyaf tebygol ydyw fod y gair "graddau " yn cyfeirio at fynediad y genedl i fyny i Jerusalem, a fod y Salmau hyn i'w hystyried fel yn cael eu rhoddi yn ngenau pererinion ar eu ffordd i Jerusalem, yn enwedig o'r caethiwed, megys yn Salm 122-124. Y mae y beirniaid Iuddewig, ar y llaw arall, yn barnu eu bod yn cyfeirio at y grisiau, pymtheg mewn nifer, ag oedd yn arwain o gyntedd y gwragedd i gyntedd y dynion, ac ar bob un o ba rai y cenid un o'r Salmau uchod.

Arwydda "Selah," dyrchafu, sef dyrchafu y llais, medd rhai— forte, ond mwy tebyg mai dyrchafu yr Arglwydd mewn mawl ychwanegol a feddylir.

NODIADAU AR LYFRAU.

A Walk across Africa; or, Domestic Scenes from my Nile Journal. By JAMES AUGUSTUS GRANT. Blackwood & Sons.

Y MAE ein darllenwyr deallgar yn gydnabyddus a hanes alaethus marwolaeth ddisymwth Capt. Speke, yr hwn a saethwyd yn angeuol, trwy i'w wn, yn ddamweiniol, fyned allan. Cymerodd hyn le pan yr oedd y British Association yn cynnal ei chynnadledd blynyddol, yr hwn a gymerodd le y tro diweddaf yn ninas Bath. Yr oedd Speke i ddarllen papur y diwrnod canlynol, ac yr oedd disgwyliad mawr wrtho. Parodd ei farwolaeth annisgwyliadwy alar mawr trwy y deyrnas ymhlith y dosbarth goleuedig, a thaflodd len o brudd-der ar gyfarfodydd y gymdeithas uchod. Yr oedd Capt. Speke wedi cyhoeddi hanes ei anturiaethau a'i deithiau, yn Africa, trwy ba rai y darganfyddwyd, meddir, ddirgelwch yr afon Nile. Ond gan fod dadleuon wedi codi i fyny gyda golwg ar y cwestiwn, i ba raddau y gellir golygu y teithiau uchod, fel yn taflu goleu ar yr hen ddirgelwch, am ffynonell afon yr Aipht, yr oedd llawer yn teimlo yn awyddus i gael gwybod pa beth a ddywedai Capt. Grant ar y mater, yr hwn oedd gyda Speke yn yr

un gwaith. Gwyddys fod Grant yn meddu mwy o wybodaeth wyddonol na Speke, ac yn gyfarwydd dros ben âg anifeiliaid a llysiau y gwledydd tramor, ac wedi casglu samplau lliosog o honynt. Y mae mewn gwirionedd yn cael ei ystyried ymhob modd yn fwy galluog i fod yn hanesydd yr anturiaethau nag ydoedd Speke. Yn wir, yr oedd yr olaf wedi dymuno ar Grant i gymeryd mewn llaw roddi desgrifiad o arferion a defodau y gwledydd Île buont, i'r hyn y cydsyniodd Grant, ac yr oedd copi o'r llaw-ysgrif ar ei fwrdd boreu y diwrnod y bu farw. Caiff darllenydd y llyfr hwn ddifyrwch mawr a hysbysrwydd helaeth ynghylch arferion y llwythau Africanaidd, ac y mae ynddo ddefnyddiau gwerthfawr i helaethu gwybodaeth ar amrywiol ganghenau gwyddoniaeth

naturiol.

Gweithiau y Parch. Jonathan Edwards, D.D., America, mewn pump ar hugain o rifynau, Swllt yr un. Y Traethawd cyntaf, RHYDDID YR EWYLLYS. Cyfieithiedig gan y Parch. DANIEL ROWLANDS, M.A., Llanidloes; a HANES BYWYD YR Awdwr gan y Parch. R. THOMAS, Bangor. Caernarfon: H. Humphreys.

Yr ydym yn teimlo ein hunain yn betrusgar ac amheus ynghylch priodoldeb a llwyddiant yr anturiaeth hon. Bydd yn llawen genym os try allan yn llwyddianus. Yr ydym wedi edrych dros ranau o'r rhifyn cyntaf hwn, ac yn barnu ei fod yn gyfieithiad cywir ac ystwyth, ac ar y cyfan, yn un agos cystal ag y gallesid disgwyl i neb ei wneuthur o waith fel hwn, er ein bod hefyd yn dirgel farnu ynom ein hunain, pe ga lasai ein cyfaill talentog gael ychwaneg o amser at y gwaith, y buasai yn gwneuthur cyfieithiad mwy gorchestol a mwy cydnaws yn amryw o'i ymadroddion a phriod-ddull yr iaith Gymraeg. Ond yr ydym yn rhyfeddu yn fynych fod Mr. Rowlands yn alluog i ddyfod trwy gymaint o waith ag y mae. Bydd yn peri i mi feddwl weithiau am un neu ddau o awduron Herculeaidd presenol y Saeson, y rhai ydynt trwy ddiwydrwydd di-ball wedi myned trwy gyfandir o waith yn eu hoes. Yr ydym yn disgwyl y bydd ein cyfeillion, y chwarelwyr ieuaingc yn enwedig, yn cefnogi yr anturiaeth hon o eiddo Mr. Humphreys, ac yn ymroddi i astudio y gweithiau anfarwol hyn. Yr ydym braidd yn meddwl ar yr un pryd y buasai yn well iddo ddechreu gyda rhan llai arddansoddol a mwy poblogaidd. CLEMENT EVANS, "BELLE SAUVAGE STEAM MACHINE PRINTING WORKS,

« السابقةمتابعة »