صور الصفحة
PDF
النشر الإلكتروني
[graphic][merged small][merged small]

CAPEL NEWYDD PRINCE'S ROAD,

LIVERPOOL.

YB ydym yn anrhegu ein derbynwyr y mis hwn â darlun prydferth o'r capel newydd a fwriedir ei adeiladu yn Prince's Road, Liverpool. Cawsom y manylion canlynol fel eglurhad ar y darlun.

Y mae y dull, neu y style, ar ba un y mae wedi gynllunio, yn cael ei alw yn French Gothic perthynol i'r cyfnod boreuol ar y dull hwnw o adeiladu, yr hwn ddull a ystyrir y puraf a'r prydferthaf o'r holl amrywiaeth o adeiladau Gothaidd. Y mae ffurf yr adeilad ar lun croes, yr hyn a elwir yn yr iaith agosaf atom yn cruciform, ac felly cynnwysa yr hyn a elwir yn nave a transepts, y cyntaf yn cyfeirio at hyd y groes, a'r olaf at y pren croes neu y fraich sydd yn myned ar draws y cyntaf. Gellir eu galw yn Gymraeg yn ganol-ran a thrawsranau. Hyd y cyntaf ydyw 104 o droedfeddi, a'r lled ydyw 40 o droedfeddi. Hyd yr olaf ydyw 80, a'r lled ydyw 32 o droedfeddi. Gwelir fod clochdy pigfain i fod arno, hyd yr hwn a fydd 175 o droedfeddi. Y mae yn ymgyfodi yn y gornel ogledd-ddwyreiniol. Bydd yn un o'r rhai harddaf yn y rhan hon o'r wlad. Y mae y clochdy hwn yn dyrchafu i fyny oddiar dwr ardderchog, yr hwn a gysylltir a'r capel trwy fynedfa (vestibule) hardd. Bydd galleries uwchben y traws-ranau, ac hefyd yn y canol-ran, ond 1.1 bydd yr un yn yr ochrau, dim ond yn y talcen. Y mae galleries yn yr ochrau yn cael eu condemnio y dyddiau hyn, gan y rhai a ystyrir yn meddu ar y chwaeth uchaf. Y mae ffurf y capel newydd yn gyfryw ag i'w gyfaddasu i gynnwys cynnulleidfa fawr yn y modd mwyaf cryno a chysurus. Y mae y traws-ranau yn gwasanaethu i hyn, trwy grynhoi y rhan fwyaf o eisteddleoedd i bellder byr oddiwrth y pregethwr. Y mae y cynllun yn gyfryw fel nad oes cymaint ag un eisteddle yn yr holl gapel, nas gellir cael o hono lawn olwg ar y gweinidog a'r diaconiaid hefyd. Nid oes dim colofnau ynddo i rwystro yr olwg. Bydd y galleries yn pwyso ar wregysau haiarn. Yn y cynllun dangosir platform fawr a chyfleus yn lle pulpud, yr hwn sydd ymhob modd yn fwy addas i gysur y gweinidog, i gynllun ehang yr adeilad, ac i ysbrydiaeth yr oes. Y mae yr holl eisteddleoedd yn wynebu at y pregethwr. Cynnwysant ddigon o le i 1250 o bersonau. Ar yr ochr orllewinol i'r capel bydd vestries, a dwy ysgoldy ehang a chysurus-un i'r plant a'r llall i'r rhai mewn oed.

Bwriedir i'r capel i gael ei adeiladu o gerig Penmaenmawr, ac felly bydd yn adeilad Gymreig yn ystyr manwly gair. Gobeithiwn y bydd y rhai a fwriadant addoli ynddo, yn cadw eu perfeithrwydd Cymreig wedi myned iddo, heb roddi ffordd i gymhendod Seisnig, yr hwn sydd annioddefol; ac yr ydym yn hydera y gelwir ef nid yn eglwys fel y tuedda rhai, ond yn gapel-yr hen enw anwyl sydd ar ein haddoldai, ac yn Gapel y Methodistiaid Cymreig, ac nid yn Eglwys Bresbyteraidd. Y mae yn resyn i ni ildio hen enw gwir Y SYMBYLYDD] [EBRILL 1865-8.

L

ragorol ein henwad am un ganwaith salach. Nid yr enw a'n gwna ni, ond ni a ddylem wueuthur ein henw, a thrwy ein henw ein henwad ein hunain yn barehus-a hyny nid trwy unrhyw ymddangosiad ond trwy fod yr hyn a haedda ac a ennilla i ni, gan nad pa enw a fyddo arnom, wir gydnabyddiaeth, urddas, a pharchusrwydd.

RHAGORIAETH CRISTIONOGAETH AR HOLL GREFYDDAU Y BYD.".

MAE dyn yn fod addolgar,-yn greadur crefyddol. Felly yr oedd yn ei gyflwr cyntefig, ac felly y mae i raddau eto yn ei gyflwr syrthiedig ac annychweledig. Mae rhyw ymsyniad o fodolaeth Bôd uwchraddol, ac ymdeimlad o rwymedigaeth i addoli y cyfryw, wedi ei ddilyn yn mhob cenedl, oes, sefyllfa, a gwlad, ar wyneb y ddaear; a diau mai hyn yw y rheswm nad oes odid i genedl ar y ddaear nad oes ganddi ryw dduw neu dduwiau, a gwasanaeth crefyddol y bobl yn cael ei gyflwyno iddynt fel y cyfryw. Fel hyn y mae pob cenedl, yn genedl o grefyddwyr. Digon gwir fod unigolion i'w cael yn anffyddlawn i'w natur eu hunain yn gwadu y syniad a'r teimlad sydd ynddynt o fodolaeth Duw a rhwymedigaeth eu calon iddo, ond eithriad yw hyn, nid y rheol; y rheol yw fod rhywbeth mewn dyn sydd yn peri iddo gydnabod bodolaeth Bôd uwchraddol, ac yn ei arwain yn naturiol i gyflwyno gwasanaeth crefyddol iddo. Dyma'r ffaith, pa fodd bynag y ceisir rhoddi cyfrif am dani-mae ei enaid yn brefu am Dduw, ac ni foddlonir ef nes ei gael. Ond er fod dyn fel hyn yn ngrym ei feddwl a'i galon ei hun, yn cario gydag ef ryw gymaint o'r gwirionedd, eto, trwy dywyllwch ei feddwl a llygredigaeth ei galon trwy bechod, y mae wedi crwydro yn mhell oddiwrth y gwirionedd, ac wedi ei arwain i gofleidio cyfeiliornadau peryglus a dinystriol. Wedi colli gafael ar y Gwir a'r Bywiol Dduw, mae dychymyg, a deall, a theimladau, a chydwybodau dynion, yn mhob oes wedi bod yn ymbalfalu am dano; ac yn nghanol y tywyllwch yr oeddynt yn ymdroi ynddo, meddyliai rhai eu bod wedi cael gafael arno yn y cyrff wybrenawl, eraill yn elfenau natur, ac eraill mewn gwrthrychau daearol, megys coedydd, coedwigoedd, afonydd, mynyddoedd, creigiau, gwyntoedd, taranau, ystormydd, &c., gan gyflwyno addoliad a gwasanaeth crefyddol iddynt fel duwiau; ïe, mynasant gymborth celfyddyd i ffurfio a chaboli duwiau o waith dwylaw, ïe, aethant mor bell nes persenoli hyd yn nod eu pechodau eu hunain, a gwneyd duwiau o honynt i ymgrymu ger eu bron. "Newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw, i gyffelybiaeth llun dyn

RHAGORIAETH CRISTIONOGAETH AR HOLL GREFYDDAU Y BYD. 168

llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwar carnol, ac ymlusgiaid; **Ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na'r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragywyddol." Fel hyn aeth duwiau y cenedlocdd yn aml a lliosog, a'u crefyddau a'u haddoliadau yn hynod o amrywiol. Daeth pob cenedl i feddu eu duwiau ei hun; ac yr oedd y duwiau hyn mewn rhif o'r bron yn ddiderfyn;-duw serch a duw digofaint, duw heddwch a duw rhyfel, duw y môr a duw y mynydd, duw doethineb, duw celfyddyd, duw masnach, &c., ac yr oedd eu crefyddau a dull eu haddoliadau o'r bron mor aml ac amrywiol a'r duwiau eu hunain. Ond yn nghanol yr amrywiol ffrydiau llwydion a chymysglyd hyn o grefyddau dynol, mae crefydd Mab Duw yn sefyll ar ei phen ei hun, heb ymgymysgu a dim o honynt, ac heb fod yn gyffelyb i ddim o honynt, yn llifo yn "afon bur o ddwfr y bywyd, disglaer fel y grisial," ac i'w hadnabod wrth ei rhagoriaeth, ei rhinweddau, a'i gogoniant tra-rhagorol arnynt oll.

[ocr errors]

Gellir dosbarthu holl grefyddau y byd dan bedwar pen;-Paganiaeth, Mahomediaeth, Iuddewiaeth, a Christionogaeth. Cynnwysa Paganiaeth bob ffurf o eilunaddoliaeth, hen a diweddar, neu bob cyfundrefn grefyddol ag y mae dyn wedi greu trwy rym ei alluoedd ei hun, yn ei gyflwr paganaidd ar wahan oddiwrth Air Duw.

Y prif rai a gynnwysir o dan y pen hwn ydyw Trabiaeth (addoliad llu y nef) y Caldeaid; cyfriniaethau (mythologies) yr Aifftiaid, y Groegiaid, a'r Rhufeiniaid, yn yr hen oesoedd, yn nghyda Bwdhiaeth, (Budhism), Hindwaeth, a Pharsiaeth, y dyddiau diweddaf hyn. Nid yw yr amrywiol grefyddau hyn amgen pentwr cymysgedig o eilunaddoliaeth, aml-dduwiaeth, oll-dduwiaeth, (pantheism), a materoliaeth; eu haddoliad nid yw ond ffurf; en hathrawiaethau ydynt dryblith o dywyllwch ac ofergoeledd; a'u dylanwad ar y bobl ydyw eu dyfnhau mewn anwybodaeth a llygredd. Mahomediaeth yw y grefvdd hono a ddyfeisiwyd ac a ddysgwyd gan dwyllwr mawr y Dwyrain, sef Mahomed, yr hwn a flodeuodd tua dechreu y seithfed ganrif. Mae y grefydd hon yn awr yn dal gafael yn meddyliau agos i filiwn a haner o bobl! Sylfaenir hi ar bedair colofn;-1. Y Coran-llyfr ag oedd y twyllwr yn broffesu iddo dderbyn gan Dduw, ac a alwyd ganddo yn Air Duw. 2. Y Sannah, neu Draddodiad. 8. Cysondeb yn marn duwinyddion Mahomedaidd uniongred. 4. Kias, neu ymresymiad. Erthyclau ei ffydd ydynt;-1. Ffydd yn Nuw. 2. Yn ei angylion. 3. Yn ei ysgrythyrau (sef ysgrythyrau y Coran). 4. Yn ei broffwydi (sef proffwydi y Coran, &c.) 5. Yn yr adgyfodiad.

[ocr errors]

6. Mewn rhagarfaethiad. Ei chrefydd ymarferol sydd gynnwysedig mewn pedwar peth;-1. Gweddïau a phuredigaethau. 2. Elusenau. 3. Ympryd. 4. Pererindod i Mecca. (Gwel. "Faiths of the World," art Mahomedans). Dywedir fod y gaubroffwyd hwn yn dra dyledus am gynnwysiad y Coran i ysgrifeniadau yr Hen Destament a'r Newydd; ond er hyny, fel y gwel y darllenydd wrth edrych ar yr erthyclau uchod, y mae ei grefydd yn dra diffygiol, mewn ffydd ac ymarferiad, o'r hyn sydd yn hanfodol i ddyn fel bód moesol, ac fel pechadur; a mwy na hyn, mae y gyfundrefn hon yn "gwadu yr unig Ben-arglwydd, sef ein Harglwydd Iesu Grist," ac wedi ei gwenwyno drwyddi gan gymysgedd peryglus o Undodiaeth, Antimoniaeth, a Deistiaeth. Y mae yn gwadu trindod o bersonau yn y Duwdod; nid yw yn cymhell duwioldeb ar ei deiliaid; ac y mae yn gwrthod gwir Air Duw, ac yn gosod i fyny air dyn twyllodrus yn ei le. Iuddewiaeth. Gellir dywedd am y grefydpd hon ei bod yn rhan o Gristionogaeth, os nad yr un à hi. Megys y dywed un awdwr, mewn atebiad i'r gofyniad, "a oes gwahaniaeth rhwng yr Hen Destament a'r Newydd?" "Gwahaniaeth graddau yr wyf yn addef," meddai, "ond nid gwahaniaeth natur." Yr un haul sydd yn llewyrchu o'r boreu hyd ganol dydd, er fod gwahaniaeth rhwng graddau y llewyrch ar wahanol amserau; ac yn mhellach, "gwahaniaeth graddau, nid trwy fod mwy o gyfiawnder yn y naill, a mwy o drugaredd yn y llall; ond trwy fod cyfiawnder a thrugaredd yn fwy amlwg yn y Testament Newydd." "(Athrawiaeth yr Iawn," tu dal. 15, 16). Mae perthynas mor agos rhwng Iuddewiaeth a Christionogaeth, fel y gellir dweyd nad oedd y flaenaf ond yr olaf yn y blaguryn, a'r olaf y flaenaf wedi ymagor yn ei holl ogoniant. Nid oedd crefydd yr Hen Destament ond crefydd y Testament Newydd dan lèn, ac nid yw crefydd y Testament Newydd ond crefydd yr Hen wedi dadlenu. Y Newydd yn ei chyflwr o fabandod oedd yr Hen, ond yr Hen wedi myned yn ŵr cyflawn oed yw y Newydd, (1 Cor. xiii. 11). Ond er hyn, y mae y Newydd yn rhagori cymaint ar yr Hen, fel ag y mae hyd y nod yr ysgrifenwyr ysbrydoledig yn galw y naill yn dywyllxch,” a'r llall yn "oleuni;" y naill yn "gnawd" a "llythyren," a'r llall yn ysbryd;" y naill yn "gaethiwed" a'r llall yn "rhyddid;” y nailyn "wyddorau y byd, a'r llall yn "deyrnas nefoedd." Cristionogaeth yw y grefydd hono a ddysgwyd gan Grist a'i Apostolion. Mae hon wedi ei chrynhoi yn nghyd yn ysgrifeniadau y Testament

66

[ocr errors]
« السابقةمتابعة »