صور الصفحة
PDF
النشر الإلكتروني

Newydd. A gadael allan bob credöau enwadol, cydwelir ar y materion canlynol fel athrawiaethau hanfodol i ffydd Gristionogol Brotestanaidd:1. "Dwyfol ysbrydoliaeth, awdurdod, a digonoldeb yr Ysgrythyrau." 2. "Hawl a dyledswydd dyn i farnu drosto ei hun wrth egluro y Bibl." 8. "Undod y Duwdod, a thrindod o bersonau yn ei hanfod." 4. "Llwyr lygredigaeth y natur ddynol trwy y cwymp." 5. "Ymgnawdoliaeth Mab Duw, y cymod a weithiodd i bechaduriaid o ddynolryw, ei eiriolaeth cyfryngol a'i deyrnasiad." 6. "Cyfiawnhâd pechadur trwy ffydd yn unig." 7. "Gwaith yr Ysbryd Glan yn nychweliad a Sancteiddhâd pechadur." 8. "Anfarwoldeb yr enaid, adgyfodiad y corff, barniad y byd gan ein Harglwydd Iesu Grist, gyda gwynfyd tragywyddol i'r cyfiawn, a chosbedigaeth dragywyddol i'r drygionus." "Dwyfol sefydliad y weinidogaeth Gristionogol, a rhwymedigaeth a pharhâd yr ordinhadau, Bedydd, a Swper yr Arglwydd." Gan mai a'r grefydd Gristionogol yn wrthrychol (objective), h.y. fel cyfundrefn y tu allan i ni, ac nid yn fewnol (subjective), h.y. fel egwyddor fywiol ynom ni, y mae a wnelom yn benaf yn y traethawd hwn, yr ydym wedi dwyn yr erthyclau uchod i mewn yma er mwyn rhoddi deffiniad (definition) mwy pennodol o'r hyn yr ydym

9.

dadleu dros ei ragoriaeth; a pha grefydd bynag sydd yn gwadu y gwirioneddau uchod, nid yw yn deilwng o'r enw Cristionogaeth. Erbyn hyn ynte, fe welir fod llawer o grefyddau yn y wlad hon, a gwledydd eraill hefyd, ag sydd megys yn llechu yn nghysgod Cristionogaeth, ac hyd yn nód yn dwyn ei henw, nad ydynt yn Gristionogol yn y mesur lleiaf; megys, Rhesymoliaeth Ffrainc a'r Almaen, Pabyddiaeth, Undodiaeth, Antinomiaeth, a Deistiaeth, &c. Mae Rhesymoliaeth yn dyrchafu rheswm yn safon ac awdurdod uwch na Gair Duw; mae Pabyddiaeth yn dysgu delwaddoliaeth, yn dyrchafu awdurdod yr eglwys a thraddodiadau dynol yn gyfartal a'r Bibl, ac yn gwyrdroi athrawiaethau ac ordinhadau yr efengyl, nes eu hymddifadu o'u symledd, eu gogoniant, a'u rhinwedd i bechadur; mae Undodiaeth yn difwyno yr athrawiaethau Cristionogol trwy gymeryd ymaith eu gogoniant, Antinomiaeth yn gwneyd y cwbl yn farw a diddylanwad, tra y mae Deistiaeth yn taflu y cyfan dros y bwrdd. Dealled y darllenydd gan hyny mai nid pob crefydd ag sydd yn myned dan yr enw Cristionogaeth ydym yn ei olygu wrth yr enw hwnw yn y traethawd hwn, ond Cristionogaeth fel y dysgwyd hi gan Grist a'i apostolion, yr hon sydd i'w chael yn bur a dilwgr yn y Testament Newydd.

Yn awr, credwn fod yr amrywiol ffurfiau uchod o grefydd, yn cynnwys o'r bron bob cyfundrefn grefyddol ar y ddaear, hen, diweddar, a phresenol; ac yn awr, ein gorchwyl fydd cyferbynu yr amrywiol grefyddau daearol hyn ag UN GREFYDD FAWR GAIR Duw, a cheisio. dangos yn mha bethau y mae hon yn tra rhagori arnynt oll. Wrth gwrs, byddai yn ormod o orchwyl mewn traethawd bach fel hwn i sylwi ar bob manylion o wahaniaeth a rhagoriaeth, gan hyny, rhaid i ni gyfyngu ein hunain at y prif elfenau sydd yn perthyn iddynt yn gyffredinol; ymfoddloni ar ryw belldrem un olwg fawr, gyffredinol, ar y maes sydd yn gorwedd yn agored o'n blaen.

Rhagora Cristionogaeth yn 1. Yn Nwyfoldeb ei tharddiad. Nid yw crefyddau y byd ond dynol. Neu, a dweyd y goreu, nid ydynt ond ychydig o'r Dwyfol yn gymysgedig a llawer o'r dynol. Ond y mae y cymysgedd hwn drachefn yn peri nad yw y gyfundrefn oreu o honynt ond dynol, fel cyfanwaith, wedi y cwbl. Hyd yn nôd er i ni ganiatau y gosodiad "fod pob cyfundrefn ddynol o grefydd, hyd y nôd y fwyaf ddiraddiol, yn sylfaenedig i ryw raddau ar grefydd naturiol, neu ar y syniadau a'r teimladau crefyddol sydd yn fewnol yn nghyfansoddiad pob meddwl," nid yw yr achos yn newid. Nid ydynt ond dynol ar y goreu. Ac nid yw honiadau rhai o honynt i Ddwyfoldeb, fel Mahomediaeth, &c., yn deilwng sylw. Mae eu ffrydiau yn dangos o ba ffynnonell y maent wedi tarddu; y maent yn dwyn nodau sydd yn eu tadogi i ddynoliaeth lygredig a gwyrdröedig. Ond mae crefydd y Bibl yn Ddwyfol. Pa fodd bynag, nid ydym yn bwriadu yn y fan hon i ymchwilio i mewn i'r profion o hyn,-dim ond galw sylw at y ffaith, ac at y gwerth uwchraddol y mae hyn yn ei osod ar y grefydd hon rhagor pob crefydd arall. Ar yr un pryd, wrth fyned heibio, gallwn rifo cedyrn golofnau y Deml Gristionogol, a galw sylw y darllenydd ystyriol at eu cadernid a'u gogoniant. Y mae yma dair o golofnau mawr allanol:-Gwyrthiau, Proffwydoliaethau, ynghyda lledaeniad mawr a chyflym yr efengyl yn yr oesau boreuaf, a hyny yn ngwyneb y rhwystrau a'r gwrthwynebiadau mwyaf. A all y darllenydd dybied am fynyd y gellir dynoleiddio y gwyrthiau a'r proffwydoliaethau rhyfeddol hyn ar y rhai y mae y grefydd hon yn sefyll? Nid wyf yn tybied. Ac am ei natur ymledaenol, mae hyn yn perthyn i Gristionogaeth mewn modd gwahanol o'r bron i bob crefydd arall. Y mae wedi myned allan er y dechreu "yn gorchfygu, ac i orchfygu." Ymledaenodd gyda

chyflymder mawr yn ei chychwyniad, ac y mae yn parhau i ymëangu yn ei blaen, ac yn cynyddu yn barhaus yn ei gafael ar feddyliau a chalonau dynion.

Ond heblaw y rhai hyn, y mae eto chwech o golofnau oddi mewn i'r Deml hon:-Cysondeb y grefydd hon dan wahanol oruchwyliaethau, eysondeb ei gwahanol ranau a'u gilydd, ac hefyd á Natur; ei chysondeb a chymeriad a bwriadau Duw; ei chyfaddasrwydd rhyfeddol i anghenion dynoliaeth; ei rheolau o foesoldeb; cymeriad a bywydau y Cristionogion boreuol, yn nghyda dylanwad sancteiddiol a phuredigol y gwirionedd yn gyffredinol; a chymeriad gogoneddus Crist, sylfaenydd y grefydd hon, gystal a chymeriad ac ysbryd yr Ysgrifenwyr sydd wedi gosod ei hegwyddorion ar gof a chadw. Yn awr, nid yw y rhai hyn ond y prif brofion-y colofnau blaen yn yr adeilad; gallem nodi amryw bethau eraill, ond chwilied y darllenydd y rhai uchod yn eu hyd a'u lled, eu huchder a'u dyfnder, ac nid ydym yn ofni y canlyniadau. Fel hyn, mae Cristionogaeth yn yr oll a berthyn iddi o'r bron, yn OR-UWCHDDYNOL. Dyma allu uwchlaw dynol yn ei gwyrthiau; gwybodaeth uwchlaw dynol yn ei phroffwydoliaethau; purdeb uwchlaw dynol yn ei moesau; dylanwadau uwchlaw dynol yn ei moddion; cysondeb yn ei chyfansoddiad uwchlaw cywreinrwydd dynol i'w annghysoni; cyfaddasrwydd yn ei darpariadau i anghenion dyn ag sydd bob amser wedi bod uwchlaw cyrhaedd pob crefyddau dynol; ac yn nghymeriad y Dyn Crist Iesu, dyma ddarlun o berffeithrwydd moesol "na welodd llygaid, ac na chlywodd clust". ddim yn gyffelyb iddo erioed, ac "ni ddaeth i galon dyn" erioed i ddyfeisio na dychymygu dim byd yn debyg iddo! Mae y nodweddau hyn yn yr angyles oruwch angylaidd hon, yn dangos ei genedigaeth oddiuchod, yn hawlio Duw yn Dad iddi, ac yn taflu holl grefyddau y byd i'r cysgodion yn ei hymyl. Cured anffyddwyr arni oddiallan, a rhyw naw-degfed o ddeistiaid (os nad rhywbeth gwaeth) oddimewn, fel Strauss a Bauer; Williams a Wilson, awdwyr yr "Essays and Reviews;" Dr. Colenso, ac M. Renan, a'u cyffelyb, a'r angyles ddaeth i waered o'r nefoedd a chwardd, yr Angyles hon a'u gwatwar hwynt. Pe gallasai ei gelynion buasent wedi ei dinystrio er ys llawer dydd, ond mae Cristionogaeth wedi gallu byw yn y dwfr a'r tân, wedi sefyll yn y rhyfel yn ddigwymp er cenedlaethau, wedi gweled "cwymp mil wrth ei hystlys, a deng mil ar ei deheulaw," wedi ymorfoleddu ar ei holl elynion, ac wedi dyfod allan o bob brwydr yn arwres fuddugol;

[ocr errors]

y mae heddyw yn fyw ac yn gref, a mwy nag erioed o arwyddion myned rhagddi yn nerth ei Dwyfoldeb nes darostwng y byd o dan ei theyrnwialen, a dwyn pawb i gydnabod ei Dwyfol darddiad. Dyma grefydd wedi sylfaenu ei chadernid a'i gogoniant mewn Dwyfoldeb; dyma gyfanwaith Dwyfol, ag y gall pechadur anwybodus, llygredig, euog, a thruenus bwyso arno am fywyd tragywyddol.

(P'w barhau.)

LLYTHYR O CHINA.

(Parhad o tu dal. 141.)

AR ein glaniad yn Galle, ymosodwyd arnom gan gwmpeini aneirif o ddarganfyddwyr gemmau. Cymhellent i'n sylw bob math o fodrwyau, binau, a gemau (?) &c., am ba rai y gofynent brisiau bur rhesymol pan gofier eu bod oll o wneuthuriad "Brummagem." Gofynent, er enghraifft, £15 am fodrwy Cat's Eye, &c., a phrisiau eraill mewn cyfartaledd. Ond pan ddeallasant fod genym ni ryw fath o ddrwgdybiaeth o'r lle y daeth eu trysorau o hono, ryw fodd neu gilydd daeth y farchnad i lawr yn bur sydyn, fel y gallech heb ryw lawer o siarad brynu y fodryw £15 am rupee, neu 2s., a chynhyrfwyd rhai yn ein plith, naill a'i wrth weled y fath hunan-aberthiad yn y gwerthwyr, neu er mwyn cael anrhegion i'r Chinëaid-i brynu detholiad go lew ganddynt. Cawsom fodrwyau glâsem (sapphire), eurem (topaz), rhudem (garnet), a goruddem (amethyst), am y pris rhesymol o ddeunaw ceiniog, y rhai oni buasai am y gostyngiad anferth a fuasai yn costio £100. Y mae amgylchoedd Galle yn gynnwysedig yn benaf o fwthod y brodorion; rhed y plant drwy y coed mewn cyflwr hollol amddifad o ddillad. Y mae gan y brodorion, yn wŷr a gwragedd, yn hen ac ieuainc, arferiad budr a brwnt i'r pen gnoi cneuen y betel pepper. rhoi y fath bleser iddynt hwy ac y mae cnow yr ac ysmocwyr yn cael oddiwrth dybacco. Ond y mae yr arferiad o hono yn llawer mwy niweidiol. Y mae yn lliwio y poeri yn goch berffaith; ymddengys y gwefusau a'r dannedd fel wedi eu lliwio gan waed; y maent fel hyn yn wrthrychau annyoddefol o ddiflas i edrych arnynt.

Y mae yn

Ond daeth yn adeg i ni ail gychwyn, yr oedd yr agerddlong oedd yn myned i China yn cychwyn tua dwy awr o flaen y "Nemesis," yr hon oedd yn myned i Calcutta. Aeth cryn nifer

o'm cyd-deithwyr gyda'r olaf, ac felly bu raid i ni ail ffurfio ein cwmpeini. Yr oedd ein nifer yn gryn lawer yn llai, ond ar gyfer hyny yr oeddem yn fwy llawen a chyfeillgar gyda'n gilydd. Ni ddygwyddodd dim o bwys hyd nes y cyrhaeddasom Penang. Tref fechan hynod o brydferth-tybia rhai ei bod yn rhagori ar Ceylon-ond gan fod ein hamser yn fyr, a'r haul yn hynod o boeth, ni welais lawer o honi. Yr oedd y sypiau pobl oedd o amgylch y lle glanio, ac yn loetrian hyd gorneli yr ystrydoedd, ac yn y bazaar, yn arddangos cryn dipyn o gymysgiad mewn cenedl-ach ac arferion o wisgo. Cyrhaeddasom Singapore ar fore yr 16eg o Fawrth. Nid oes yn y dref hon ddim neillduol i dynu sylw y dieithrddyn. Y mae y tai wedi eu pentyru ar eu gilydd, ac yn cael eu trigianu yn benaf gan Chinëaid. Yr eglwys Seisnig yw yr unig adeilad o ddim nôd. Y mae yma ddigon o bine apples brâf; a chymerais inau y cyfleusdra cyntaf gefais i wledda arnynt, a chymerais tua haner cant efo mi i'r llong, am y telais y swm dirfawr o un swllt-pris un yna. A fuasech chwi ddim yn hoffi treulio eich " pymthegnos" yma. Cawsom ymwared yma oddiwrth ddau hen garictors pur annymunol,—un yn swyddog yn y fyddin, a'r llall oedd hen wraig tua 55 oed o'r enw Mrs. R. Er nad oedd llais yr olaf yn rhy gerddorol, eto, nid oedd wedi ei bendithio â grâs attaliol i'w chadw rhag ysgwyd ei thafod. Yr oedd yn ysgwyd yn ddibaid er gwaethaf y diffyg cefnogaeth a gai gan bawb. Yr oedd hi yn hyn yn rhy debyg i lawer o'i rhyw. O'r diwedd glaniasom yn Hong Kong, ar foreu Gwener Croglith. Ar ol ychydig o oedi, gadawsom y dref hono, a daethom i'r lle bendigedig yma. Rhoddaf i chwi hanes am hwn * helaeth eto. * * Cofiwch fi at eich teulu, ac at bawb o'm cydnabod yn Liverpool. Ydwyf, eich hen a'ch cywir gyfaill,

mwy

66

rnai

y

W.

MRS. OLIVER CROMWELL.

Enw morwynol y wraig hon ydoedd Elizabeth Bourchier. Ganwyd hi yn 1598. Enw ei thad ydoedd Sir James Bourchier, o Felstead, yn Essex. Yn ol pob tebyg daeth Oliver Cromwell yn gydnabyddus a'i ferch Elizabeth pan yn Llundain, wedi ei anfon

M

« السابقةمتابعة »