صور الصفحة
PDF
النشر الإلكتروني

amser i ni, canfyddwn ein bywyd naturiol yn farw hefyd. Mewn amser, y mae yn bosibl i ni feddu ar hapusrwydd tymmorol, defnyddioldeb cyffredinol, seiliau dedwyddwch tragywyddol, a chymhwysder i fod yn ogoniant tragwyddol i Dduw.

Everton.

J. E.

HOLIADAU AR "ATHRAWIAETH YR IAWN."

DOSBARTH I.-PEN. II.-IV.

1. PAHAM nad yw mor briodol dyweyd "Duw Hollwybodaeth yw," â "Duw cariad yw."

2. Pa fodd y dangoswch fod cam-olygiad am gymeriad Duw yn arwain i gyfeiliornad ar athrawiaeth yr iawn?

3. Pa beth a feddylir wrth y "terfyn" a'r "diderfyn" yn eu cysylltiad a'r iawn?

4. Profwch nad yw egwyddorion moesol yn tarddu o ewyllys

Duw?

5. Pa beth a feddylir wrth y "drychfeddyliau tragywyddol?" 6. Yr oedd anghenrheidrwydd yn Nuw yn galw am iddo gospi pechod, ond yr oedd yr un anghenrheidrwydd yn galw am iddo gospi yr euog yn ei berson ei hun? Yn angau Iesu Grist dyma y diniwed yn dyoddef yn lle yr euog. Pa fodd yr oedd hyn yn boddloni cyfiawnder? A ydyw y dywediad mai "haeddiant ydyw hanfod yr iawn," yn symud yr anhawsder, os ydyw, pa fodd?

7. Gan mai y drychfeddwl o Dduw yn y cnawd yw canolbwynt yr holl feddyliau dwyfol yn yr hwn y maent oll yn cydsefyll; pa fodd y dywedir nad oedd pechod yr hyn a achosodd ei ymgnawdoliad o gwbl ymhlith y drychfeddyliau?

8. Pa beth oedd golygiadau Nitzsch a Hofmann ar yr iawn gan eu bod yn gwrthod y syniad meichnïol, ac heb ei ystyried fel haeddiant?

9. Paham nad yw haeddiant anfeidrol marwolaeth Crist yn iawn digonol, heb i ni dybied iddo farw fel meichnïydd?

10. Paham nas gellir rhoddi lle dyladwy i'r gwirionedd, fod gelyniaeth yn Nuw at bechod, a bod yr iawn yn effeithio, cymmod gwrthrychol yn gystal a thufewnol heb dderbyn meichnïydd.

11. Pa heth a feddylir wrth gymmod "gwrthrychol" a "thufewnol?"

12. Os bu Crist farw dros bersonau neillduol (yr hyn a gynnwysir mewn meichnïydd), pa fodd y mae y personau hyny yn euog nes credu ynddo?

13. Pa fodd y dangoswch fod yr anhawsder hwn yn cyfarfod golygiadau eraill ar yr iawn?

YR AIL DDOSBARTH.-PEN V—VI.

1. A ydyw y ffaith fod mab Duw wedi marw yn profi iddo farw fel meichnïydd, os ydyw, pa fodd?

2. Oddiwrth ba beth yn ngeiriau Iesu Grist yn Gethsemane, neu ar y groes, y gellir profi iddo farw fel meichnïydd; ac at ba ymadroddion eraill y gellir cyfeirio i brofi hyn?

fel

yr

3. Yn tudalen 50, dywedir, "Daeth Crist i undeb mor agos a ni oedd ei farwolaeth ef yr un peth yn ngwyneb deddf a phe buasem ni yn dyoddef yn ein personau ein hunain." Pa fodd y dangoswch nad yw hyn yn anghyson â'r dywediad, mai haeddiant ydyw hanfod yr iawn?

4. Os oedd angenrheidrwydd am i Grist ufuddhau mewn trefn i fod yn iawn, pa angen oedd am fawredd yn yr ufudd-dod ei hun, gan fod haeddiant anfeidrol yn yr ymostyngiad lleiaf o eiddo mab Duw?

5. Pa bethau a nodir fel yn angenrheidiol i'r haeddiant ? 6. Pa beth a feddylir wrth bersonoliaeth, ac wrth fod person yr Arglwydd Iesu yn yr iawn?

7. Nid yw yn briodol dyweyd fod natur ddwyfol Crist wedi dyoddef a marw, eto "nid y natur ddynol oedd yn dyoddef ac yn marw, ar wahan oddiwrth y natur ddwyfol." l'a fodd y profwch fod hyn yn cynnwys rhywbeth mwy na "dull o ymadroddi."

8. Pa ddau gyfeiliornad mawr a wrthbrofir yn y dyfyniad a wneir o waith Hooker, sef ei Ecclesiastical Polity; a pha fodd gwrthbrofir hwy?

Y TRYDYDD DOSBARTH.-PEN. VII, VIII.

y

1. Pa beth a feddylir wrth fod athrawiaeth yr iawn, "yn cyfateb i'r egwyddorion gwreiddiol sydd yn meddwl dyn am Dduw, am y ddeddf, ac am ddrwg pechod?"

2. Dangoswch y cysylltiad sydd rhwng yr iawn a chyfiawnhad.

3. Pa fodd yr esbonir y geiriau, "Cyfiawnder Duw." Rhuf. i. 17, gan De Wette?

4. Pa wahaniaeth a ellir wneyd rhwng maddeuant a chyiawnhad?

66

5. At ba adnod neu adnodau y mae y geiriau a arferir yn fynych gan y Calfiniaid, pan yn ymdrin am gyfiawnhad, sef, cyfrif yn cyfiawn," yn sylfaenedig? Paham y defnyddir y gair "cyfrif?" A yw y Bibl yn dyweyd ymhellach na bod cyfiawnhad Crist yn cael ei gyfrif i bechadur?

6. Pa fodd y profwch fod y saint yn Nghrist er tragwyddoldeb? Os ydynt, pa angen sydd am undeb ag ef trwy ffydd cyn y gellir eu cyfiawnhau?

7. Pa un ai y dosbarth sydd yn credu fod derbyniad y pechadur fel un cyfiawn ger bron Duw yn ymddibynu ar ei weithredoedd, ai ynte y rhai sydd yn teimlo fod eu gweithredoedd goreu ger bron Duw yn "fratiau budron," sydd mewn gwirionedd yn dyrchafu mwyaf ar weithredoedd da.

8. Pa un o'r ddwy gyfundrefn ydyw y fwyaf effeithiol i gynnyrchu gweithredoedd da?

9 Paham na all maddeuant a chyfiawnhad trwy weithredoedd gyd-sefyll.

10. Y mae y rhai sydd yn credu y gallasai Duw faddeu heb iawn, yn meddwl eu bod, trwy hyny, yn rhoddi lle uwch i'w ddaioni. Dangoswch fod hyn yn gyfeiliornad.

11, Pa fodd y mae golwg ar gariad Duw yn rhoddi y mab yn îawn, yn sancteiddio pechadur ?

12. Profwch mai yn y cyfiawnhad, ac nid yn yr ail-enedigaeth, y mae dyn yn marw i bechod.

PENNOD IX.

1. Beth oedd barn Augustine ar gyfiawnhad.

2. Pa un a'i dwyn ffydd i'r golwg fel y gras, trwy yr hwn y mae dyn yn cael ei gyfiawnhau, ai ynte dwyn goleuni ar natur cyfiawnhad, fel cyfnewidiad cyflwr a wnaeth y Diwygiad Protestaidd?

3. Beth oedd y pwnc a ddenai fwyaf o sylw yr eglwys yn y canrifoedd cyntaf ?

4. Beth yw sylwedd y dyfyniadau a wneir o'r tadau eglwysig,

a pha wirioneddau yn athrawiaeth yr iawn sydd naill ai heb sylw ganddynt, neu ynte yn cael eu gosod allan mewn modd tra diffygiol?

5. Beth oedd eu barn am yr angenrheidrwydd oedd yn galw am i Grist farw ?

6. Pa bwnc neillduol yn athrawiaeth yr iawn a ddygwyd i oleuni gan Anselm?

7. Mewn pa beth yr oedd Thomas Aquinas yn gwahaniaethu oddiwrth Anselm yn ei olygiadau ar yr iawn, ac mewn pa beth y dywedir ei fod yn rhagori arno?

8. Beth oedd y gwasanaeth a wnaeth y Diwygwyr Protestanaidd i athrawiaeth yr iawn?

9. Beth oedd golygiadau Luther a Melancthon ar berson Crist a'r Iawn?

10. Beth oedd y gwahaniaeth rhwng Luther a Calfin yn eu dull o edrych ar yr iawn.

Cynwyd.

EVAN EVANS.

YR YSGOL SABBOTHOL.

At yr

Athrawon

BUM lawer gwaith ynmeddwl y gallai y wasg wneyd mwy i'r Ysgol Sabbothol nag y mae wedi ei wneyd hyd yn hyn.

Y mae ein cymydogion yn gwneyd llawer mwy o ddefnydd o honi nag yr ydym ni y Cymry. Ac er ein bod yn credu mai yn Nghymru y mae yr Ysgol Sabbothol yn ei gogoniant, hwyrach nad ydym yn symud ymlaen mor gyflym ag y dylem, er cadw i fyny effeithiolrwydd y sefydliad. Y mae yn amlwg nad ydyw sefydliad o'r fath ag ydyw yr Ysgol Sabbothol, i droi mewn cylch sefydlog o drefniadau, ei bod o ran ei phethau allanol i'w chyfaddasu i gynnydd y byd mewn gwybodaeth, y mae ei llyfr a'i athrawiaethau mor anghyfnewidiol, a thragywyddoldeb ei hunan. Ond y mae y ddull o ddysgu yr athrawiaethau yn beth ag y gellir ei gyfnewid a'i ddiwygio. Gallem feddwl y gellid llenwi cylchgrawn fel hwn yn gyson a materion yr Ysgol Sabbothol, pe byddai i'r rhai sydd yn alluog i hyny wneyd eu goreu trwy y wasg o'i phlaid. Yr ydym yn credu fod ymhlith athrawon yr ysgol yn Nghymru

leng o feddylwyr ac ysgrifenwyr digon galluog i roi bywyd newydd yn yr hen sefydliad.

Os oes rhyw ddull gwell na'i gilydd o ddysgu y plant i ddarllen, caffed pob ysgol yn Nghymru ei wybod a chyfle i roi prawf arno. Os oes rhywun a all egluro y pwnc o gymhwysderau athraw, a'r dull goreu o gymhwyso rhai i fod yn athrawon, ymafled yn y Symbylydd, a gwnaed ei feddwl yn hysbys. Dïau fod rhyw lwybr pennodol yn rhagori, i ymddyddan ar adnodau y Bibl yn y dosbarth, mor dda fyddai i bob athraw ei wybod.

Y mae cymdeithas undeb yr Ysgolion Sabbothol yn Lloegr yn cyhoeddi llyfrau ar faterion felly, "y Gelfyddydd o Holwyddori," "awdurdod yr athraw ar y Dosbarth, &c.," llyfrau bach gwir ragorol, beth sydd yn rhwystro i athrawon gorcu Cymru ddysgu eu gilydd mewn pethau fel hyn.

Yr wyf yn sicr y gallaf ddiolch tros eraill heblaw fy hunan i'r Parch. D. C. Davies, Llundain, am ei sylwadau rhagorol ar yr Ysgol Sabbothol trwy "Y Gyfres Gymraeg." Yr wyf yn meddwl eu bod yn cymeradwyo eu hunain i bob cydwybod athraw a'i darllenodd. Pwy fydd y nesaf o'n pobl fawr a wna dipyn o wasanaeth i ni yn y ffordd hon neu arall?

Yr wyf yn meddwl mai dyna'r cwbl sydd genyf i'w ddyweyd y tro hwn; da chwi gyfeillion gadëwch i ni roi cam neu ddau ymlaen, peidiwch a gadael i'r bêl ddisgyn i'r llawr, dyweded arall ei feddyliau ar hyn.-Yr eiddoch, &c.

ATHRAW.

GEIRIAU Y DOETHION.

GWERSI O BACON.

JER. VI. 16. "Sefwch ar y fyrdd ac edrychwch a gofynwch am yr hen lwybrau."

Y mae hynafiaeth yn haeddu i ddynion sefyll fel hyn arni am ennyd, i gymeryd golwg o amgylch pa un ydyw y ffordd oreu; ond wedi gwneuthur y darganfyddiad yn iawn, ni ddylid sefyll yn hwy, ond myned ymlaen yn galonog. Ac i ddywedyd y gwir, cyflwr ieuanc y byd ydyw henafiaeth; o herwydd yr amserau hyny sydd yn hen, pan y mae y byd yn hen; ac nid y rhai a gyfrifir

« السابقةمتابعة »